22 Medi 2023
Ymchwiliad i Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru
Diolch am ymddangos gerbron y Pwyllgor ddydd Iau, 14 Medi 2023 i roi tystiolaeth ar gyfer ein hymchwiliad i greu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Yn ystod y cyfarfod gwnaethoch gytuno i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn i’r Pwyllgor:
§ Mewn cysylltiad â cham dau o'r prosiect, cadarnhad o faint mewn metrau sgwâr o ofod arddangos cyhoeddus newydd a fydd yn cael ei greu, yn ychwanegol at yr hyn a ddarperir ar hyn o bryd gan y rhwydwaith o orielau.
§ Gwybodaeth am y defnydd o’r wefan sydd wedi’i choladu yn sgil y defnyddwyr sy’n cyrchu gwefan y casgliad celf digidol, sef Celf ar a Cyd, ers ei lansio ym mis Mehefin 2023.
Edrychwn ymlaen at gael eich ymateb cyn bo hir, a byddem yn hapus i dderbyn unrhyw wybodaeth ychwanegol y dymunwch ei rhannu sy'n berthnasol i'n hymchwiliad.
Yn gywir
Delyth Jewell
AS
Cadeirydd y
Pwyllgor
Croesewir
gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.